Skip to content
In Construction

Gwelliannau i Stryd y Castell

Y gwelliannau sy’n cael eu gwneud

Byddwn yn uwchraddio’r feicffordd dros dro i greu beicffordd ar wahân barhaol ar hyd Stryd y Castell ac yn gwella:

  • safleoedd bws ar hyd Ffordd y Brenin a Heol y Gogledd,
  • palmentydd,
  • draenio,
  • goleuadau stryd,
  • arwyddion, ac
  • arwyneb y ffordd.

Bydd y feicffordd newydd yn aros ar ochr ogleddol Stryd y Castell.  Bydd angen i ni wneud newidiadau i gyffyrdd allweddol a newidiadau bach i’r mannau llwytho.

Ni fydd unrhyw newidiadau mawr i drefn y lonydd.

Rydym wedi gwneud gwaith helaeth i fodelu’r traffig er mwyn sicrhau bod Stryd y Castell yn bodloni gofynion ansawdd aer a chanllawiau teithio llesol.

Rydym wedi ymgynghori o’r blaen ar y newidiadau i Stryd y Castell ac wedi penodi contractwr i wneud y gwaith gwella.

Cyffordd Heol y Porth

  • Dechrau beicffordd wedi’i gwahanu’n llawn i gysylltu â’r un dros dro presennol
  • Newid i drefn y lonydd i ddarparu lôn gyfunol ar gyfer troi i’r dde a mynd syth ymlaen o Stryd y Castell i Heol y Porth
  • Diwygiadau i’r groesfan i gerddwyr
  • Gosod palmant newydd
  • Gwella lleoliad a maint y blwch melyn
  • Lôn feicio newydd o Heol y Porth drwy’r gyffordd gyda goleuadau traffig i feicwyr
  • Newidiadau i’r lôn gerbydau a’r droedffordd yn Stryd Womanby ac Arcêd y Castell
  • Beicffordd wedi’i gwahanu’n llawn yn parhau
  • Cyfleusterau parcio beiciau
  • Ymestyn y lôn fysus bresennol hyd at ddiwedd y gilfan fysus
  • Lloches bws to gwyrdd arfaethedig
  • Adnewyddu’r palmant
  • Gwelliannau i’r palmentydd
  • Tacluso’r celfi stryd wrth fynedfa Castell Caerdydd
  • Trefn bolardiau newydd (i’w gadarnhau)
  • Beicffordd wedi’i gwahanu’n llawn yn parhau
  • Lôn fysus bresennol i aros
  • Mân ddiwygiadau i’r man llwytho
  • Gwelliannau i’r palmant a thacluso celfi stryd wrth gyffordd y Stryd Fawr
  • Cyfuno’r man llwytho a’r safle tacsi i greu un man mwy o faint
  • Lôn fysus bresennol i aros
  • Aildrefnu’r groesfan i gerddwyr i gyd-fynd â’r llwybr a ffefrir i Heol y Frenhines
  • Beicffordd wedi’i gwahanu’n llawn yn parhau
  • Tirlunio â blodau gwyllt
  • Cyfuno’r man llwytho a’r safle tacsi i greu un man mwy o faint
  • Lôn fysus bresennol i aros
  • Lloches bws to gwyrdd arfaethedig
  • Newidiadau i safleoedd bws
  • Lloches bws to gwyrdd
  • Ynys fysus
  • Croesfan sebra ar y feicffordd i’r ynys fysus
  • Croesfan a reolir i’r ynys fysus
  • Tirlunio â blodau gwyllt
  • Cyflwyno lôn troi i’r dde ar gyfer bysus yn unig o Ffordd y Brenin i Stryd y Castell/Heol y Gogledd (yr A4161)
  • Tynnu 2 goeden a phlannu coed newydd gerllaw

Newidiadau ger Castell Caerdydd

Mae angen cais Caniatâd Heneb Gofrestredig ar unrhyw waith sydd wedi’i leoli yn union ger y castell. Mae CADW wedi cymeradwyo’r cais a’r dyluniad arfaethedig, ac maen nhw’n goruchwylio’r gwaith ar y safle.

Pryd fydd y gwaith yn digwydd?

Dechreuodd y gwaith ym mis Chwefror 2026 a disgwylir iddo gymryd tua 12 mis.

Rheoli traffig a mynediad

Mae Knights Brown wedi cael y contract i gyflawni’r gwaith hwn ar ran Cyngor Caerdydd.

Byddant yn gyfrifol am y canlynol:

  • Cynnal mynediad i bob busnes a phreswylfa.
  • Cynllunio a gweithredu’r mesurau rheoli traffig sydd eu hangen i wneud y gwaith.

Bydd traffig dwyffordd ar Stryd y Castell yn cael ei gynnal pan fo hynny’n bosibl. Efallai y bydd goleuadau traffig dros dro yn cael eu gosod i ganiatáu i rannau o’r cynllun gael eu hadeiladu’n ddiogel. Bydd unrhyw fesurau cau yn cael eu cyfathrebu ymhell ymlaen llaw.

Cynhelir mynediad i siopau ac adeiladau drwy gydol y gwaith.

Byddwn yn gweithio gyda busnesau i sicrhau nad oes effaith ar ddanfoniadau.

Bydd Knights Brown yn rhoi diweddariadau trwy:
• Llythyrau a anfonir cyn ac yn ystod camau allweddol y prosiect
• Diweddariadau ar eu gwefan: www.kbinfowales.co.uk
• Swyddogion Cyswllt Penodedig: Tracy Beall a Kate Baynham a fydd ar gael drwy gydol y prosiect

E-bost: Talktous@knightsbrown.co.uk, tracy.beall@knightsbrown.co.uk, kate.baynham@knightsbrown.co.uk

2023
2024
2025
Cyfnod o ymgysylltu â’r cyhoedd

22/12/2025 – 5/01/2026

2026
2027