Rheilffordd
Mae rhwydwaith rheilffyrdd Caerdydd yn cynnig gwasanaethau aml o bob rhan o’r ddinas yn ogystal â theithio pellter hirach.
Mae Trafnidiaeth Cymru (TC) yn gyfrifol am nifer o brosiectau rheilffyrdd yng Nghaerdydd, gellir dod o hyd i’r rhain yma.
Gellir dod o hyd i’r prosiect rheilffordd Cledrau Croesi Caerdydd yma.
Pasys
Gall pasys rheilffordd eich helpu i deithio’n rhatach.
Dilynwch y dolenni isod i ddarganfod mwy am y gwahanol opsiynau.
- Cerdyn Rheilffordd Teulu a Ffrindiau
- Cerdyn rheilffordd 16-25
- Cardiau Rheilffyrdd i Bobl Hŷn
- Trafnidiaeth Cymru
- Cardiau Rheilffordd i Bobl Anabl
Dod â’ch beic ar drenau
Mae gan wahanol wasanaethau a gweithredwyr trenau wahanol bolisïau ar fynd â beiciau ar drenau felly mae’n werth gwirio cyn i chi deithio. Ar rai gwasanaethau gellir cadw lle i feiciau, ond efallai bydd gan eraill bolisi ‘y cyntaf i’r felin’.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am fynd â’ch beic ar y trên trwy ymweld â gwefannau gweithredwyr rheilffyrdd: