Bws
Trafnidiaeth Ysgol
Trafnidiaeth ysgolion prif ffrwd
Mae Cyngor Caerdydd yn darparu trafnidiaeth ysgol am ddim i ddisgyblion 5 i 16 oed nad ydynt yn byw o fewn pellter cerdded i’w hysgol. Rydym yn mesur y pellteroedd gan ddefnyddio’r llwybr cerdded byrraf.
Os yw eich plentyn yn gymwys i gael trafnidiaeth ysgol am ddim a bod gwasanaeth bws ysgol yn eich ardal chi, byddwn yn cyhoeddi pàs bws ar gyfer y gwasanaeth hwnnw.
Os yw eich plentyn yn gymwys i gael trafnidiaeth ysgol am ddim ac nad oes gwasanaeth bws ysgol yn eich ardal chi, byddwn yn cyhoeddi pàs bws y gellir ei ddefnyddio ar drafnidiaeth gyhoeddus.
I ddysgu mwy am dalgylchoedd ysgolion.
Cymhwysedd
Mae disgyblion o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 11 yn cael eu hasesu i weld a ydynt yn gymwys i gael trafnidiaeth ysgol am ddim bob blwyddyn.
Ni fydd eich plentyn yn gymwys i gael trafnidiaeth ysgol am ddim yn yr achosion canlynol:
- ni wnaethoch gais am yr ysgol dalgylch, neu
- cafodd gynnig ar gyfer yr ysgol dalgylch ei wrthod.
Mae disgyblion ysgolion cynradd yn gymwys os ydynt yn byw dros 2 filltir o’u hysgol dalgylch, neu’r ysgol agosaf nesaf y gwnaethoch gais amdani neu a gynigiwyd i chi, os yw’r ysgol dalgylch yn llawn.
Mae disgyblion ysgolion uwchradd yn gymwys os ydynt yn byw dros 3 milltir o’u hysgol dalgylch, neu’r ysgol agosaf nesaf y gwnaethoch gais amdani neu a gynigiwyd i chi, os yw’r ysgol dalgylch yn llawn.
Llwybrau Bysus Ysgol
Mae ysgolion yng Nghaerdydd yn cael eu gwasanaethu gan gyfuniad o wasanaethau bysus ysgol dan gontract a rhai sy’n cael eu gweithredu’n fasnachol. Gwasanaethau dan gontract ysgolion yw’r rhai sydd â’r dynodiad “R”, tra bod y llwybrau cyfres 600/800 yn wasanaethau cyhoeddus sy’n cael eu gweithredu’n fasnachol.
Am yr amseroedd diweddaraf, dilynwch y ddolen: Llwybrau bysus ysgol