Skip to content
Complete

Uwchraddio Taith Taf, De Parc Hailey

A bilingual teal and white welcome sign for Hailey Park in Cardiff, situated next to a curved paved path where a cyclist is riding into the park on a sunny day.

Mae Cyngor Caerdydd wedi datblygu cynigion i wella’r rhan hir sefydledig o Daith Taf sy’n rhedeg drwy Barc Hailey rhwng Heol y Bont a Heol Tŷ Mawr.  Mae Taith Taf yn rhan o rwydwaith o lwybrau y mae’r Cyngor am eu datblygu a/neu eu gwella er mwyn annog mwy o deithio llesol a chyflawni ei ddyletswyddau statudol y gosodwyd arno gan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru).

Mae’r llwybr drwy Barc Hailey yn cael ei rannu’n swyddogol gan gerddwyr a beicwyr fel y bu ers blynyddoedd lawer.  Nod y cynigion oedd lledu’r llwybr ac adlinio rhan ohono er mwyn galluogi holl ddefnyddwyr y parc i symud yn ddiogel o fewn neu drwy’r parc. Y bwriad oedd gwella profiad holl ddefnyddwyr y llwybr.

Ymgynghoriadau ac Ymgysylltu

Ymgysylltu Cynnar

Cynhyrchwyd adroddiad Astudiaeth Llwybr Taith Taf, a gomisiynwyd gan y Cyngor, gan Sustrans ym mis Ionawr 2018. Edrychodd yr astudiaeth hon ar y problemau a’r syniadau i wella Taith Taf rhwng Heol Penarth a Thongwynlais. Arolwg o ddefnyddwyr Taith Taf a gynhaliwyd fel rhan o’r astudiaeth a amlygodd y rhan trwy Barc Hailey fel un sydd angen ei gwella. Wrth ddatblygu’r cynllun, cynhaliwyd ymgysylltu cynnar ag adran Parciau Cyngor Caerdydd, ymgynghorwyr allanol / tyfwyr coed, Cyfeillion Parc Hailey, Dinas Feicio Caerdydd a Sustrans.

Beiciwr gwrywaidd yn beicio ar lwybr lliw hufen tywyll trwy barc ar ddiwrnod heulog gyda pherson yn cerdded tuag ato. Marciau gwyrdd ‘Share with Care’ i’w gweld ar wyneb y llwybr
Beiciwr yn beicio ar lwybr lliw hufen tywyll trwy barc ar ddiwrnod heulog gyda pherson yn cerdded wrth ei ymyl. Marciau gwyrdd ‘Share with Care’ i'w gweld ar wyneb y llwybr. Person yn gwthio cadair wthio yn cerdded tuag at y camera. Mae coed bob ochr i’r llwybr.
Beiciwr gwrywaidd yn beicio ar lwybr lliw hufen tywyll trwy barc ar ddiwrnod heulog yn gyfagos i gwrt tennis. Marciau gwyrdd ‘Share with Care’ i’w gweld ar wyneb y llwybr
Rhedwyr gwrywaidd a benywaidd yn rhedeg ar lwybr lliw hufen tywyll â choed bob ochr trwy barc ar ddiwrnod heulog. Marciau gwyrdd ‘Share with Care’ i’w gweld ar wyneb y llwybr
Gwryw a benyw yn cerdded ar lwybr lliw hufen tywyll â choed bob ochr trwy barc ar ddiwrnod heulog.
Gwryw a benyw yn cerdded ar lwybr lliw hufen tywyll â choed bob ochr trwy barc ar ddiwrnod heulog.

Ymgynghoriad Cyhoeddus – Mawrth 2020

Roedd y cynigion cychwynnol yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Mawrth 2020.

Fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus, cynhaliwyd digwyddiad ymgynghori yng nghaffi Ride My Bike ar 11 Mawrth 2020 rhwng 17.30 a 19.30 i edrych ar gynlluniau Parc Hailey a Beicffordd 4.

Cynhaliwyd digwyddiad ymgynghori pellach yn ôl y bwriad yn 2il Grŵp Sgowtiaid Llandaf, Belle Vue Crescent ar 14 Mawrth 2020 rhwng 10.00 a 14.00 i edrych ar gynllun Parc Hailey a’i drafod.

Oherwydd cyfyngiadau’r cyfnod clo, nid oedd modd cynnal unrhyw ddigwyddiadau ymgynghori pellach. Fodd bynnag, er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyfle i bobl wneud sylwadau a rhoi adborth ar y cynllun, cafodd y cyfnod ymgynghori ei ymestyn am bythefnos arall.

Ar ôl yr ymgynghoriad cyntaf ar y cynllun, gwnaed y newidiadau canlynol i ddyluniad y cynllun:

  • Adlinio’r llwybr wrth ymyl Mary Street i gynnal parcio i breswylwyr a pharcio i ymwelwyr ar ochr ddeheuol Mary Street.
  • Darparu cysylltiad ychwanegol i gerddwyr â’r llwybr troed ar Mary Street i roi gwell cysylltedd i gerddwyr sy’n mynd i’r parc o Mary Street.
  • Defnyddio marciau llawr sy’n tynnu sylw at yr angen i ‘rannu gyda gofal’ drwy gydol y cynllun i hysbysu’r holl ddefnyddwyr eu bod yn defnyddio man a rennir o fewn amgylchedd parc.
  • Dileu’r murlun stryd arfaethedig o’r rhan o’r llwybr wrth ymyl yr ardaloedd chwarae i blant.
  • Lleihau lled y llwybr o 5 metr i 4 metr.

Ymchwiliwyd i aliniad y llwybr trwy Barc Hailey yn dilyn pryderon a fynegwyd yn ystod yr ymgynghoriad am agosrwydd y rhan newydd o’r llwybr i’r ardaloedd chwarae. Cynhyrchwyd model 3D i alluogi swyddogion y Cyngor i ddelweddu’r rhan hon o’r cynllun. Defnyddiwyd y deunyddiau hyn fel rhan o ymarfer ymgysylltu â’r cyhoedd pellach a gynhaliwyd yng ngwanwyn / haf 2023.

Ymgysylltu ar y Cynllun yng Ngwanwyn/Haf 2023

Digwyddiad ‘Galw Heibio’ Cyhoeddus – 19 Ebrill 2023

Cynhaliwyd digwyddiad galw heibio ymgysylltu yn Neuadd Sgowtiaid Ystum Taf ddydd Mercher 19 Ebrill rhwng 5pm ac 8pm.

Cyn y digwyddiad, postiwyd gwahoddiadau i dros 600 o eiddo preswyl ar strydoedd i’r gorllewin o Heol yr Orsaf ac i’r de, gan gynnwys ardal Heol Tŷ Mawr yn Ward Ystum Taf. Rhoddwyd cyhoeddusrwydd i’r digwyddiad ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd.

Roedd copïau papur o’r cynlluniau trefniant cyffredinol a darnau o’r delweddau 3D o’r cynllun yn cael eu harddangos ar waliau a byrddau. Dangosodd swyddogion fideo o’r delweddau 3D ar gyfrifiadur personol a monitor yn y digwyddiad.

Cyhoeddi’r cynlluniau diwygiedig a’r delweddau 3D ar-lein: Dydd Iau 13 Gorffennaf – Dydd Gwener 11 Awst 2023.

Cyhoeddwyd copïau o’r holl gynlluniau a deunyddiau ar wefan y Cyngor am bedair wythnos rhwng dydd Iau 13 Gorffennaf a dydd Gwener 11 Awst 2023. Cyflwynwyd 20 ymateb yn y digwyddiad ymgysylltu yn Neuadd Sgowtiaid Llandaf. Derbyniwyd 125 o ymatebion drwy e-bost.

Crynodeb o’r newidiadau a wnaed yn dilyn ymgynghori ac ymgysylltu.

Newidiadau a wnaed yn dilyn ymgynghori yn 2020.

Y newidiadau a wnaed i gynigion y cynllun yn dilyn yr ymgynghori yn 2020 oedd:

  • Adlinio’r llwybr wrth ymyl Mary Street i gynnal parcio i breswylwyr a pharcio i ymwelwyr ar ochr ddeheuol Mary Street.
  • Darparu cysylltiad ychwanegol i gerddwyr â’r llwybr troed ar Mary Street i roi gwell cysylltedd i gerddwyr sy’n mynd i’r parc o Mary Street.
  • Defnyddio marciau llawr sy’n tynnu sylw at yr angen i ‘rannu gyda gofal’ drwy gydol y cynllun i hysbysu’r holl ddefnyddwyr eu bod yn defnyddio man a rennir o fewn amgylchedd parc.
  • Dileu’r murlun stryd arfaethedig o’r rhan o’r llwybr wrth ymyl yr ardaloedd chwarae i blant.
  • Lleihau lled y llwybr o 5 metr i 4 metr.

Newidiadau ychwanegol a wnaed yn dilyn ymgysylltu yn 2023.

Y newidiadau a wnaed i gynigion y cynllun yn dilyn yr ymgysylltu yn 2023 oedd:

  • Gosod suddfannau dŵr pwrpasol wedi’u dylunio i leihau dŵr wyneb ffo i fynd i’r afael â phryderon llifogydd.
  • Adlinio’r rhan o’r llwybr wrth ymyl ochr ddwyreiniol y cyrtiau tennis i leihau’r effaith ar y rhwydwaith gwreiddiau a choed.
  • Culhau’r llwybr mewn mannau i’r de o’r caeau chwarae i ddarparu ar gyfer suddfannau dŵr newydd.

Casgliadau

Mae adborth o’r gweithgareddau ymgynghori ac ymgysylltu yn amlygu nifer o bryderon ynghylch y cynigion yn benodol, colli mannau gwyrdd, lled y llwybr a phryderon y bydd hyn yn arwain at feicwyr yn teithio’n gyflymach, agosrwydd y llwybr arfaethedig i’r droedffordd wrth ymyl Mary Street, agosrwydd yr ardaloedd chwarae i blant a phryderon ynghylch diogelwch hyn, effaith weledol y cynllun a phryderon am ddŵr glaw ffo ac effeithiau llifogydd posibl.

Gwnaed nifer o newidiadau i’r cynigion gwreiddiol i fynd i’r afael â’r pryderon hyn:

  1. Adlinio’r llwybr arfaethedig ymhellach i ffwrdd o Mary Street
  2. Lleihau lled y llwybr arfaethedig o 5 metr i 4 metr.
  3. Tynnu’r murlun paentiedig yng nghyffiniau’r ardaloedd chwarae i blant.
  4. Rhoi marciau ‘Araf’ ar y llwybr a marciau sy’n tynnu sylw at yr angen i ‘rannu gyda gofal’.
  5. Gosod suddfannau dŵr pwrpasol wedi’u dylunio i leihau dŵr wyneb ffo i fynd i’r afael â phryderon llifogydd.

Mae’r rhan hon o Daith Taf yn hirsefydlog. Nid yw lled na chyflwr presennol y llwybr trwy Barc Hailey yn bodloni’r safonau sy’n ofynnol yng Nghanllawiau Deddf Teithio Llesol Llywodraeth Cymru. Bydd y cynllun arfaethedig yn cyflawni’r gofyniad hwn.

Mae aliniad amgen ar gyfer Taith Taf wedi cael ei gyflwyno gan Dinas Feicio Caerdydd. Mae swyddogion y Cyngor wedi ystyried hyn yn llawn. Mae eu hasesiad wedi dod i’r casgliad bod nifer o gyfyngiadau ar sefydlu llwybr ar hyd yr aliniad hwn, sy’n golygu nad yw’r cynnig yn ddichonadwy.

O ystyried y canfyddiadau hyn, cynigion y Cyngor, fel y’u diwygiwyd mewn ymateb i adborth ymgynghori, yw’r unig ffordd y gellir uwchraddio Taith Taf trwy Barc Hailey.

I gloi, felly, argymhellir, yn amodol ar gael y cyllid angenrheidiol, fod cynigion y Cyngor yn cael eu gweithredu. Yn ogystal, dylai’r Cyngor ymchwilio i opsiynau ar gyfer lledu a gwella’r rhan o Daith Taf i’r de o Heol y Bont i ategu’r gwelliannau i Daith Taf trwy Barc Hailey.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.