Skip to content
In Development

Coridor Bysus y Gogledd – croesfannau sebra a lôn fysus Heol y Plwca

Snapshot of the location from the 3D fly-through video, showing the zebra crossing and interaction between vehicles and pedestrians.

Mae Cyngor Caerdydd yn cynnig mesurau i gyflwyno croesfannau newydd i gerddwyr a gwella’r rhai presennol ar hyd Heol y Plwca. Byddai hyn yn helpu pobl sy’n teithio i ac o’r siopau lleol.

Rydyn ni hefyd yn cynnig lôn fysus newydd ar ben isaf Heol y Plwca.  Byddai hyn yn helpu i flaenoriaethu trafnidiaeth gynaliadwy a gwella amseroedd teithio ar fysus. Cynigir newidiadau i leoliadau’r safleoedd bysus ar hyd y llwybr hwn hefyd.

Cyflwynir cynllun sy'n dangos y newidiadau i barcio ar hyd Heol y Plwca a'i ffyrdd ochr, gan gynnwys lleoliadau'r croesfannau sebra, gwelliannau tir cyhoeddus a lôn fysiau. Mae'r Allwedd yn darllen "Crosfannau Sebra Newydd a Gwelliannau Tir Cyhoeddus" a ddynodir gan linell ffin goch denau, "Rheoli Parcio Newydd (RPM)" a ddynodir gan linell magenta, a "Lôn Fysiau Newydd" a ddynodir gan linell werdd.

Fel rhan o’r cynigion, mae trefniadau parcio a llwytho newydd yn cael eu cyflwyno ar Heol y Plwca a rhan o’r strydoedd ochr. Byddai hyn yn helpu gyda throsiant parcio sy’n ei gwneud hi’n well i fusnesau a thrigolion lleol.

Mae parthau parcio ar gyfer yr ardal ehangach hefyd yn cael eu datblygu. Dysgwch am y parthau parcio sy’n cael eu cynnig ar gyfer Plasnewydd ar brif wefan y Cyngor.
Mae cyfyngiadau parcio a llwytho newydd angen Gorchymyn Rheoli Traffig (GRhT). Ymgynghorir ar wahân ar y rhain fel rhan o’r broses GRhT gyfreithiol.
Gallwch chi weld pecyn ymgysylltu Heol y Plwca neu gynllun safle Heol y Plwca.
I’ch helpu i ddelweddu’r newidiadau arfaethedig, rydyn ni wedi creu fideo o’r awyr.

Nodweddion allweddol y cynnig

Mae nodweddion allweddol y cynnig yn cynnwys:

3 croesfan sebra newydd

Bydden ni’n cyflwyno 3 croesfan sebra newydd ger cyffyrdd:

Keppoch Street a Glenroy Street

Cyfarthfa Street, Pearson Street a Tavistock Street

Talworth Street a Penlline Street

Gwelliannau ger Shakespeare Street

Ciplun sgrin o'r lleoliad o'r fideo hedfan drwodd 3D, yn dangos y groesfan â goleuadau arfaethedig ar gyfer cerddwyr a beicwyr a rhyngweithio cerbydau a cherddwyr. Dangosir rhan o'r cyswllt beicio arfaethedig hefyd.

Bydd lôn feicio i Shakespeare Street a Milton Street yn cael ei chyflwyno. Byddai’r lôn yn lôn gwrthlif gorfodol sy’n golygu y byddai beicwyr yn teithio i’r cyfeiriad arall i’r system draffig unffordd. Mae hyn yn gwella mynediad i feicwyr.

Dangosir darn o’r cynllun dylunio cysyniad o’r adran rhwng cyffordd Penlline Street, ar hyd Heol y Plwca i'r gyffordd â St Peter’s Street. Dangosir gwahanol labeli ar y cynllun yn disgrifio'r canlynol:
• "Parcio presennol a newydd i gael ei gwmpasu gan gynigion PRhP
• Trefniadau parcio newydd
• Dechrau'r lôn fysiau. Symud y safle bws i 66 Heol y Plwca
• Gwelliannau croesfan newydd sy'n cael eu hystyried
• Lôn feicio gwrthlif newydd (gorfodol)
• Safle bws newydd wedi'i adleoli
• Croesfan sebra ddyrchafedig ymwthiol newydd gyda pharcio beiciau a thirlunio
• Lôn Fysiau Newydd" 
Mae’r Allwedd yn darllen “Parcio Talu ac Aros" a ddynodir gan linell goch, "Bae defnyddiwr anabl" a ddynodir gan linell glas golau, "Bae llwytho" a ddynodir gan linell binc, a "Chyfyngiadau aros a llwytho" a ddynodir gan linell oren.

Byddwn ni’n uwchraddio’r groesfan twcan ger cyffordd Shakespeare Street a St Peter’s Street. Byddai hyn yn cynnwys ardal â ramp a gwell amddiffyniad i’r cyswllt beicio i mewn i Shakespeare Street.

Newid croesfan ger Y Parêd

Mae’r groesfan sebra bresennol ger Y Parêd yn debygol o gael ei newid i groesfan pâl (botwm gwthio goleuadau traffig).

Lôn fysus newydd

Bydd lôn fysus newydd yn cael ei chyflwyno ar Heol y Plwca rhwng Talworth Street a’r Parêd.

Ciplun o'r lleoliad o'r fideo hedfan drwodd 3D, yn dangos y groesfan sebra a dechrau'r lôn fysiau ger cyffordd Stryd Talworth.

Safle bws a chysgodfan newydd

Bydden ni’n cyflwyno safle bws a chysgodfan newydd wrth ymyl 66 Heol y Plwca ac yn cael gwared ar y safleoedd ger yr Ernest Willows ac 84 Heol y Plwca. Byddai hyn yn gwella amseroedd teithio bysus.

Ciplun o'r lleoliad o'r fideo hedfan drwodd 3D, yn dangos y lôn fysiau arfaethedig a'r lloches arosfan bysiau newydd.

Cyllid

Rydyn ni’n awyddus i gael cyllid gan grant Cronfa Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru a hefyd o gyfraniadau datblygwyr (a elwir yn gyllid Adran 106). Ein nod yw cyflawni’r cynllun hwn ym mlwyddyn ariannol 2026 i 2027.

Ymgysylltu

Cynhaliwyd yr ymgysylltiad rhwng 4 Gorffennaf 2025 a 17 Awst 2025. Mae’r adroddiad ymgysylltu ar gael i’w weld ar wefan y Cyngor.