Papur Gwyn Trafnidiaeth
Mae Papur Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd yn nodi cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella ansawdd yr aer ym mhrifddinas Cymru. Mae wedi ei ddatblygu yn sgil ymgynghori gyda miloedd o breswylwyr y ddinas ac arbenigwyr iechyd a thrafnidiaeth.
Mae opsiynau cyflawni’r weledigaeth drafnidiaeth gwerth £1 – 2 biliwn yn cael eu hystyried. Nod y weledigaeth yw trawsnewid rhwydwaith trafnidiaeth Caerdydd a de ddwyrain Cymru drwy gyfres o brojectau a allai chwyldroi teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd a’r cylch.
Gweld y datganiad i’r wasg ar y papur gwyn trafnidiaeth
Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys:
- Metro Caerdydd – Llinellau tram-trên Cledrau Croesi Caerdydd a Chylch Caerdydd, yn cysylltu cymunedau’r presennol, a rhai newydd, ar hyd a lled y ddinas, yn cynnwys gorsafoedd newydd a gorsafoedd wedi eu hailwampio. Yn gweithio’n agos â phartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru, byddwn yn cefnogi lansio system docynnau integredig, er mwyn i bobl allu teithio ar y trên ac ar fysys, a llogi beiciau, gan ddefnyddio un tocyn.
- Trafnidiaeth Bws Wib – Gwella gwasanaethau drwy sefydlu rhwydwaith bysys traws-ddinas, wedi ei gysylltu â’r Metro newydd. Bydd hyn yn cynnwys dolen fws gylchol o amgylch canol y ddinas, fydd yn golygu teithiau traws-ddinas haws i bobl, a gorsafoedd bysys newydd yn nwyrain a gorllewin y ddinas. I wneud teithio ar y bws yn fwy fforddiadwy, mae’r Cyngor yn cynnig gweithio gyda gweithredwyr bysys i leihau prisiau i £1 ledled y ddinas.
- Teithio Llesol a gwella ein strydoedd – Rhwydwaith seiclo diogel ac o ansawdd uchel, yn gwbl ar wahân i gerbydau eraill, erbyn 2026. Bydd hyn yn cynnwys dolen seiclo gyfan o amgylch canol y ddinas, fydd wedi ei chysylltu â chwe beicffordd, sydd wedi eu cynllunio ar gyfer mannau ledled y ddinas. Bydd cynllun llogi beiciau nextbike yn cael ei ehangu i o leiaf 2000 o feiciau a bydd cyfleoedd beicio rhanbarthol newydd yn cael eu cyflwyno i roi cyfle i ragor o bobl i ymuno â’r cynllun. Bydd y Cyngor hefyd yn cyflwyno ‘Menter Strydoedd Iechyd’, fel bod strydoedd yn cael eu defnyddio eto fel mannau cyhoeddus iach i’r cyhoedd eu mwynhau, yn cynnwys uchafswm cyflymdra 20mya ledled y ddinas.
- Defnyddio ceir yn y dyfodol – Cefnogi’r newid i gerbydau ag allyriadau is, er enghraifft drwy gynyddu nifer y mannau gwefru trydan yn ddirfawr ar hyd Caerdydd ac ehangu argaeledd ceir clwb ar hyd a lled y ddinas. Bydd technoleg CLYFAR yn defnyddio gwybodaeth deithio amser go iawn i fonitro ac ymateb i ddata trafnidiaeth, traffig a pharcio, yn lleihau tagfeydd ar goridorau trafnidiaeth CLYFAR.
- Seilwaith i gefnogi’r rhanbarth ehangach – Mae’r Cyngor yn cynnig rhwydwaith bysys gwib gyda gwasanaethau bws rheolaidd a fforddiadwy yn gweithredu pob 15-20 munud ar adegau prysur. Bydd y rhwydwaith hwn yn cysylltu trefi ar hyd a lled y dinas-ranbarth â chanol Caerdydd.
Gall ffeil PDF Papur Gwyn Trafnidiaeth Caerdydd gael ei lawrlwytho yma.