Skip to content

Llwybr beicio Parc y Rhath Cam 1 – Gwelliannau i Gae Rec y Rhath

Rydym wedi cwblhau llwybr newydd ar wahân ac wedi gwella llwybrau troed ar Gae Rec y Rhath, rhwng Heol Wellfield a Heol y Gwernydd ac yn yr ardal ehangach.

Dyma gam parhaol cyntaf Llwybr Beicio Parc y Rhath, fydd yn cysylltu ardal Parc y Rhath â chanol y ddinas ac yn cysylltu â llwybrau beicio eraill yn y dyfodol. Mae’r gwelliannau trwy’r cae rec ac ar hyd Heol Ninian yn cysylltu â beicffordd dros dro presennol Heol Wellfield.

Mae’r cam hwn yn cefnogi cerdded a beicio, gan wella mynediad i ysgolion lleol, cyfleusterau chwaraeon a hamdden, gwasanaethau cyfagos, a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Roedd Cam 1 y llwybr yn cynnwys:

  • Gwelliannau i gyffordd Heol Wellfield, Heol Marlborough, Heol Pen-y-lan, a Heol Ninian drwy uwchraddio mannau croesi, croesfannau i feicwyr a newidiadau i gyfnodedd goleuadau traffig.
  • Disodli’r rhwystrau culhau’r ffordd ar Heol Tŷ Draw gyda 4 croesfan i gerddwyr â ramp.
  • Gwelliannau i safleoedd bws a safle bws newydd ar Heol Ninian.
  • Newidiadau i faes parcio Canolfan Gymunedol Pen-y-lan i wneud lle ar gyfer y beicffordd, yn ogystal â gwelliannau i ardaloedd cyhoeddus.
  • Gwella’r groesfan sebra ar gyffordd Pen-y-Wain Road gyda throedffordd a rennir i gerddwyr a beicwyr tuag at Ysgol Gynradd Parc y Rhath.
  • Uwchraddio’r llwybr troed i lwybr ar wahân ac uwchraddio offer campfa ger y cae chwarae.
  • Newidiadau i’r groesfan sebra wrth gyffordd Heol y Gwernydd ac atal traffig drwodd ar Heol y Gwernydd i wella diogelwch yn y man croesi, a diogelu’r gyffordd i’r dyfodol.

Gallwch gael gwybod mwy am gynllun llwybr beicio Parc y Rhath o’r wybodaeth o ymgynghoriad y prosiect sydd ar gael ar wefan y Cyngor.

​​​​​​