Diogelwch ar y Ffyrdd mewn Ysgolion
Mae Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Caerdydd yn cynnig ystod eang o fentrau i ysgolion.
Hyfforddiant Beicio Safonol Cenedlaethol
Mae amrywiaeth o gyrsiau hyfforddiant beicio ar gael i ysgolion yng Nghaerdydd.
Cynigir Hyfforddiant Beicio Safonol Cenedlaethol (lefel 1 a 2) i ysgolion cynradd.
Gall ysgolion uwchradd ofyn am hyfforddiant lefel 1, 2 a 3 ar gyfer eu disgyblion.
Mae Hyfforddiant Beicio Safonol Cenedlaethol a chyrsiau gwyliau Dysgu Beicio hefyd ar gael i ddisgyblion ysgolion Caerdydd.
Mae cyrsiau hyfforddiant beicio i oedolion ar gael i unrhyw un sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yng Nghaerdydd.
I gael rhagor o wybodaeth am hyfforddiant beicio i blant, ewch i Cyrsiau Hyfforddiant Beicio Plant (caerdydd.gov.uk)
I gael rhagor o wybodaeth am hyfforddiant beicio i oedolion, ewch i Cyrsiau Hyfforddiant Beicio Oedolion (caerdydd.gov.uk)
Stryd-ddoeth
Nod y fenter Stryd-ddoeth yw codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd er mwyn sicrhau bod gan blant y sgiliau sydd eu hangen i deithio’n ddiogel i’w hysgol uwchradd yn ogystal ag annog annibyniaeth a theithio llesol. Darperir hyfforddiant i ddisgyblion blwyddyn 6 ledled Caerdydd.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais am y cynllun ar gyfer eich ysgol, ewch i Menter Stryd-ddoeth (caerdydd.gov.uk)
Hyfforddiant Cerddwyr Ifanc
Mae Hyfforddiant Cerddwyr Ifanc yn addysgu plant ym mlwyddyn 2 sut i fod yn gerddwyr mwy diogel.
Mae plant yn derbyn cyflwyniad yn y dosbarth ac yn cael eu tynnu allan o’r ysgol mewn grwpiau bach gan y Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd, i ddysgu tair prif sgil:
Dewis Mannau a Llwybrau i Groesi’r Ffordd
Caiff y plant eu helpu i weld pan fo peryglon a dod o hyd i fannau croesi eraill.
Croesi ger Ceir wedi’u Parcio
Addysgir plant sut i groesi yn agos at geir wedi eu parcio – pan nad yw’n bosibl eu hosgoi.
Croesfan ger Cyffyrdd
Caiff y plant eu cyflwyno i’r problemau sy’n codi gyda chyffyrdd syml a chymhleth a byddant yn dysgu sut i’w croesi.
I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais am y cynllun ar gyfer eich ysgol, ewch i Kerbcraft (caerdydd.gov.uk)
Hyfforddiant Teithio Annibynnol
Nod y Cynllun Hyfforddiant Teithio Annibynnol (CHTA) yw rhoi’r sgiliau allweddol a’r hyder i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) deithio’n annibynnol, gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Cymorth teithio i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (caerdydd.gov.uk)