Skip to content

Ein Hysgolion Teithio Llesol – Astudiaethau Achos

Ysgol Gynradd Gwaelod-y-Garth

Mae’r ysgol dwy ffrwd hon yn enghraifft berffaith o’r ffordd y mae newidiadau cadarnhaol wedi cael eu gwneud i’r ffordd y mae plant a’u teuluoedd yn teithio i’r ysgol.

Cyn i’r newidiadau gael eu gwneud, roedd cerbydau’n gallu mynd i mewn i faes chwarae’r ysgol i ollwng plant i staff a oedd aros.

Mynegwyd pryderon am ddiogelwch plant a staff oedd yn cerdded yng nghanol traffig oedd yn symud yn y maes chwarae ac am y ffaith eu bod yn cael cyswllt â mygdarth ceir.

Mae’r ysgol wedi’i lleoli mewn pentref bach gyda ffordd un llwybr mewn mannau, ac arweiniodd nifer y cerbydau yn ystod amseroedd gollwng a chasglu at dagfeydd gan effeithio ar rieni, preswylwyr a thraffig drwodd.

Gwnaeth y Pennaeth Catrin Evans weithio’n agos gyda Thîm Teithio Llesol Cyngor Caerdydd i lunio cynllun ac i roi’r camau gweithredu ynddo ar waith.

Cafodd maes chwarae’r ysgol ei gau i bob cerbyd, ac eithrio dau fws trafnidiaeth ysgol, a wnaeth leihau’r llygredd aer ar unwaith a gwella diogelwch disgyblion a oedd yn cyrraedd yr ysgol. Roedd peiriannau’r bysys yn cael eu diffodd wrth i blant adael ac ond yn cael eu hailddechrau pan oedd pob plentyn yn ddiogel yn yr ysgol.

Cafodd gwybodaeth ei hanfon at rieni ynglŷn â chau’r maes chwarae i gerbydau, gyda man parcio’n cael ei hawgrymu ychydig funudau ar droed o’r ysgol.

Arweiniodd y man parcio a awgrymwyd at lai o gerbydau yn mynd i mewn i’r pentref ei hun, a dyma hefyd oedd man cyfarfod y Bws Cerdded oedd yn cael ei redeg gan staff yr ysgol bob bore.

Mae’r bws cerdded yn galluogi rhieni i ollwng eu plant i staff a fydd yn cerdded gweddill y daith i’r ysgol gyda nhw, mae hyn yn ddelfrydol ar gyfer rhieni sy’n gweithio sydd angen teithio ymhellach wedyn neu ar gyfer y rhai llai symudol.

Cafodd gwelliannau eu gwneud i lwybr presennol trwy goetir Llan gan ddarparu llwybr heb gerbydau i’r ysgol i blant a’u teuluoedd.

Gyda chymorth Sustrans a’r rhiant Tori James, sefydlodd cymuned yr ysgol Fws Beiciau.

Mae staff yr ysgol, rhieni a phlant yn cwrdd yn Ffynnon Taf, ac mae’r bws beiciau’n beicio gyda’i gilydd i’r ysgol bob yn ail ddydd Gwener.

Mae’n gyflawniad anhygoel, yn ffordd wych o ddechrau’r diwrnod, ac mae’r ysgol wedi cael ei henwebu yn y categori ‘Ysgol yng Nghaerdydd sy’n gwneud y mwyaf i annog beicio i’r ysgol’ yng Ngwobrau Beicio Caerdydd 2023. Pob lwc!

Llongyfarchiadau a diolch i’r Pennaeth Catrin Evans, staff yr ysgol, y plant a’u teuluoedd, a chymuned ysgol Gwaelod-y-Garth am wneud y newidiadau hyn.

“Eleni mae ein Bws Beiciau wedi mynd o nerth i nerth. Mae tua 30 o feicwyr o bob gallu, gan gynnwys rhieni, disgyblion a staff bellach yn cwrdd bob yn ail ddydd Gwener yn Ffynnon Taf cyn teithio i safle’r ysgol tua milltir i ffwrdd. Mae’n wych gweld llwyddiant ein Bws Beiciau ac mae’n rhoi cyfle i’n rhieni a’n plant wneud gweithgaredd corfforol yn ystod eu diwrnod a all helpu pobl i deimlo’n fwy heini ac yn hapusach. Mae hefyd yn helpu i leihau llygredd aer ac allyriadau carbon ac yn helpu i leihau’r traffig y tu allan i’r ysgol.” Catrin Evans, Pennaeth

 

“Mae’r plant yn hapusach [pan maen nhw’n cyrraedd yr ysgol], maen nhw’n fwy egnïol ac mae manteision iechyd amlwg hefyd,” meddai un o’r mamau Tori James, sy’n helpu i drefnu’r Bws Beiciau poblogaidd. “Rydym yn chwarae cerddoriaeth hefyd, ac rwy’n bendant yn credu mai dyna un o’r uchafbwyntiau.

“Mae llawer o blant wedi gwneud sylwadau ar y ffaith eu bod yn cael beicio gyda’u ffrindiau ac yn gallu bod yn gymdeithasol ar y ffordd i’r ysgol, ac maen nhw’n gwneud rhywbeth sydd yn hwyl ac yn egnïol ar yr un pryd.

“Gallai llawer o ysgolion wneud hyn. Mae’n cymryd ychydig o benderfynoldeb ac ymdrech gan y rhieni a’r staff, ond trwy weithio gyda sefydliadau fel Sustrans gallwch gael yr arbenigedd sydd ei angen arnoch i fapio llwybrau diogel sydd ar gael i bob oedran.

“Mae plant yn y dosbarth Derbyn yn beicio gyda ni. Mae ffocws gwirioneddol ar sicrhau ei fod yn hygyrch i bawb – hyd yn oed y rhai sydd newydd ddysgu sut i reidio beic.” Tori James

 

Dywedodd un o ddisgyblion Gwaelod-Y-Garth, Max Henley, naw oed: “Mae gan y Bws Beiciau gerddoriaeth wych, a gallaf siarad â fy ffrindiau ar y ffordd i’r ysgol. Mae’r bryn reit ar y diwedd yn eithaf serth felly mae’n deimlad braf cyrraedd y brig.”

 

Ychwanegodd disgybl arall, Evan Smith, naw oed hefyd: “Dwi’n meddwl bod [y Bws Beiciau] yn dda i’r amgylchedd ac mae’n llwybr braf iawn. Rydyn ni’n mynd ar y brif ffordd, yna rydyn ni’n mynd dros bont ac mae’n hyfryd gweld yr afon a’r holl goed a’r adar.”

 

Dywedodd Dirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd Gwaelod-y-Garth, Owain Jones fod y Bws Beiciau’n gyfle perffaith i gael awyr iach a defnyddio’r lleoliad gwledig. “Mae’n bwysig iawn fel rhan o iechyd meddwl a lles pawb. Yn bersonol, mae’n esgus da i ddefnyddio’r beic bob pythefnos a gwneud rhywfaint o ymarfer corff yn gynnar yn y bore. Rwy’n credu bod rhai o’r plant yn gweld y staff mewn ffordd ychydig yn wahanol a’u bod yn hapusach i siarad â nhw am faterion personol gan eu bod wedi datblygu’r cysylltiad hwnnw.”

Hamish Belding, cydlynydd Bws Beiciau Sustrans, “Mae Bysus Beiciau’n ymddangos ymhobman. Mae’n dangos bod galw gan ddisgyblion, rhieni ac ysgolion i weld mwy o deithiau llesol yn digwydd,” dywedodd. Mae proses gynllunio ar gyfer pob Bws Beiciau sy’n ceisio gwneud y teithiau mor ddiogel â phosibl. Fel sefydliad, mae gennym becyn cymorth y gall rhieni gael mynediad iddo sy’n rhoi llawer o awgrymiadau a chyngor defnyddiol iawn iddynt am sut i ddewis llwybr diogel i’r ysgol, sut y gallant reoli Bws Beiciau, sut y gallant ei gadw’n ddiogel ac – yn bwysicaf oll – sut y gallant ei gadw’n gynaliadwy.

Ffotos

Her Llwybrau Gwyrdd

Ein Senedd Ni yw Senedd Ysgolion Cynradd Cymraeg Caerdydd. Yn dilyn trafodaeth yng Nghynulliad Cymru ar leihau allyriadau carbon a chreu Llwybrau Gwyrdd yng Nghaerdydd, penderfynodd y disgyblion drefnu diwrnod her. Ar 30 Mehefin, cafodd disgyblion yn yr ysgolion Cymraeg yng Nghaerdydd i gyd eu hannog i deithio’n llesol i’r ysgol. Yna cafodd cynrychiolwyr o bob ysgol gyfarfod yn y prynhawn i drafod y canlyniadau ac i drafod mentrau yn y dyfodol.