Strydoedd Ysgol
Rydym am sicrhau y gall plant yng Nghaerdydd deithio i’r ysgol mor ddiogel â phosibl. Mewn rhai ysgolion, mae problemau gyda thagfeydd traffig a pharcio anghyfrifol wedi codi pryderon diogelwch i gerddwyr.
Yn yr ysgolion hyn, lle mae’r lleoliad yn addas ar gyfer y cynllun a lle cynhaliwyd ymgynghoriadau a chafwyd cytundeb, mae Strydoedd Ysgol wedi eu cyflwyno i helpu plant i deithio i’r ysgol yn ddiogel drwy leihau nifer y cerbydau y tu allan i gatiau’r ysgol, hyrwyddo teithio llesol, a lleihau llygredd aer.
Mae Strydoedd Ysgol yn ardaloedd o amgylch mynedfeydd ysgolion sydd wedi eu cau i gerbydau yn ystod yr amseroedd gollwng a chasglu prysuraf.
Dim ond cerbydau â thrwydded Stryd Ysgol ddilys a ganiateir i fynd i Stryd Ysgol yn ystod yr amseroedd cyfyngedig (yn ystod y tymor yn unig).
Mae arwyddion yn hysbysu gyrwyr o’r cyfyngiadau ger y fynedfa i’r Stryd Ysgol a bydd unrhyw gerbydau heb awdurdod sy’n mynd i’r stryd yn ystod yr amseroedd cyfyngedig yn derbyn Hysbysiad Tâl Cosb.
Gall preswylwyr, gofalwyr a deiliaid bathodyn glas wneud cais am drwydded Stryd Ysgol am ddim.
Gallwch ddysgu mwy am Strydoedd Ysgol yn Strydoedd Ysgol (caerdydd.gov.uk).