Llochesi Beiciau
Cyfleusterau parcio i feiciau a sgwteri ar gyfer ysgolion
Er mwyn cefnogi ein strategaeth Teithio Llesol ac i annog plant i feicio neu fynd ar sgwteri i’r ysgol, rydym wedi bod yn gosod cyfleusterau parcio diogel a chysgodol ar gyfer beiciau a sgwteri mewn ysgolion ledled Caerdydd. Yn ystod y pedair blynedd diwethaf rydym wedi gosod cysodfannau beicio newydd sbon, rheseli parcio beiciau, a rheseli parcio sgwteri mewn bron 80 o ysgolion ac rydym yn bwriadu gosod y cyfleusterau hyn ym mhob ysgol yng Nghaerdydd sydd eu hangen. Mae rhai enghreifftiau o brosiectau diweddar i’w gweld yn y lluniau isod. Mae’r cynllun wedi’i anelu at ysgolion nad oes ganddynt unrhyw gyfleusterau, sydd angen diweddaru hen gyfleusterau, neu sydd angen ychwanegu at eu darpariaeth bresennol oherwydd galw mawr.

Cysylltwch â ni i fynegi diddordeb os ydych chi’n meddwl bod angen mwy o gyfleusterau parcio beiciau/sgwteri ar eich ysgol chi.
Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Trafnidiaeth Cymru.”
