Coridor Bysus y Gogledd – croesfannau sebra a lôn fysus Heol y Plwca
Mae Cyngor Caerdydd yn cynnig mesurau i gyflwyno croesfannau newydd i gerddwyr a gwella’r rhai presennol ar hyd Heol y Plwca. Byddai hyn yn helpu pobl sy’n teithio i ac o’r siopau lleol.
Rydyn ni hefyd yn cynnig lôn fysus newydd ar ben isaf Heol y Plwca. Byddai hyn yn helpu i flaenoriaethu trafnidiaeth gynaliadwy a gwella amseroedd teithio ar fysus. Cynigir newidiadau i leoliadau’r safleoedd bysus ar hyd y llwybr hwn hefyd.

Fel rhan o’r cynigion, mae trefniadau parcio a llwytho newydd yn cael eu cyflwyno ar Heol y Plwca a rhan o’r strydoedd ochr. Byddai hyn yn helpu gyda throsiant parcio sy’n ei gwneud hi’n well i fusnesau a thrigolion lleol.
Mae parthau parcio ar gyfer yr ardal ehangach hefyd yn cael eu datblygu. Dysgwch am y parthau parcio sy’n cael eu cynnig ar gyfer Plasnewydd ar brif wefan y Cyngor.
Mae cyfyngiadau parcio a llwytho newydd angen Gorchymyn Rheoli Traffig (GRhT). Ymgynghorir ar wahân ar y rhain fel rhan o’r broses GRhT gyfreithiol.
Gallwch chi weld pecyn ymgysylltu Heol y Plwca neu gynllun safle Heol y Plwca.
I’ch helpu i ddelweddu’r newidiadau arfaethedig, rydyn ni wedi creu fideo o’r awyr.
Nodweddion allweddol y cynnig
Mae nodweddion allweddol y cynnig yn cynnwys:
3 croesfan sebra newydd
Bydden ni’n cyflwyno 3 croesfan sebra newydd ger cyffyrdd:
Keppoch Street a Glenroy Street
Cyfarthfa Street, Pearson Street a Tavistock Street
Talworth Street a Penlline Street
Gwelliannau ger Shakespeare Street

Bydd lôn feicio i Shakespeare Street a Milton Street yn cael ei chyflwyno. Byddai’r lôn yn lôn gwrthlif gorfodol sy’n golygu y byddai beicwyr yn teithio i’r cyfeiriad arall i’r system draffig unffordd. Mae hyn yn gwella mynediad i feicwyr.

Byddwn ni’n uwchraddio’r groesfan twcan ger cyffordd Shakespeare Street a St Peter’s Street. Byddai hyn yn cynnwys ardal â ramp a gwell amddiffyniad i’r cyswllt beicio i mewn i Shakespeare Street.
Newid croesfan ger Y Parêd
Mae’r groesfan sebra bresennol ger Y Parêd yn debygol o gael ei newid i groesfan pâl (botwm gwthio goleuadau traffig).
Lôn fysus newydd
Bydd lôn fysus newydd yn cael ei chyflwyno ar Heol y Plwca rhwng Talworth Street a’r Parêd.

Safle bws a chysgodfan newydd
Bydden ni’n cyflwyno safle bws a chysgodfan newydd wrth ymyl 66 Heol y Plwca ac yn cael gwared ar y safleoedd ger yr Ernest Willows ac 84 Heol y Plwca. Byddai hyn yn gwella amseroedd teithio bysus.

Cyllid
Rydyn ni’n awyddus i gael cyllid gan grant Cronfa Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru a hefyd o gyfraniadau datblygwyr (a elwir yn gyllid Adran 106). Ein nod yw cyflawni’r cynllun hwn ym mlwyddyn ariannol 2026 i 2027.
Ymgysylltu
Cynhaliwyd yr ymgysylltiad rhwng 4 Gorffennaf 2025 a 17 Awst 2025. Mae’r adroddiad ymgysylltu ar gael i’w weld ar wefan y Cyngor.