Pont Teithio Llesol Cei Ganolog
Yn flaenorol, mae Cyngor Caerdydd wedi gofyn am gyngor cynllunio cyn gwneud cais ar bont teithio llesol arfaethedig y Cei Canolog ac mae’n gwneud cais cynllunio yr haf hwn (2025). Nod y bont feicio a cherddwyr newydd arfaethedig, sy’n croesi Afon Taf yng Nghanol Caerdydd, yw cysylltu datblygiad newydd Cei Canolog, ar hen safle Bragdy Brains, â chymuned Grangetown. Byddai gwell cysylltedd ar draws Caerdydd yn creu’r cyfle am fuddion economaidd-gymdeithasol i’r gymuned leol, a chydnabyddir y byddai’r hygyrchedd cynyddol yn sgil y bont yn gwella gwydnwch y rhwydwaith trafnidiaeth lleol yn ystod digwyddiadau mawr yn y stadiwm.
Pont Teithio Llesol Cei Ganolog
Delwedd gysyniadol o Bont Arfaethedig y Cei Canolog. Golwg i gyfeiriad y gogledd o Arglawdd Dôl Afon Taf. Cynrychiolaeth ddangosol o ddatblygiad y Cei Canolog ar ochr ddwyreiniol yr afon.
Mae’r buddion cysylltedd ehangach y byddai Pont arfaethedig y Cei Canolog yn eu cynnig yn cynnwys:
- Cau’r cylch – cwblhau llwybr teithio cylchol yng nghanol dinas Caerdydd;
- Hyrwyddo teithio llesol – rhoi llwybr uniongyrchol ar gyfer teithiau milltir gyntaf ac olaf yng Nghanol Dinas Caerdydd, gan leihau’r ddibyniaeth ar geir i rai preswylwyr;
- Gwydnwch ar ddiwrnodau digwyddiadau mawr – llwybr ychwanegol i reoli llif y bobl oherwydd digwyddiadau o fewn Stadiwm Principality; a
- Cysylltu pobl â mannau gwyrdd a llwybrau hamdden – rhoi mynediad mwy uniongyrchol o ddatblygiad arfaethedig y Cei Canolog at fannau gwyrdd presennol ar lan orllewinol afon Taf a mynediad at Lwybr Taf.
Pont Teithio Llesol Cei Ganolog
Lleoliad y Safle (yn edrych i’r gogledd o bont bresennol Heol Penarth)