Skip to content

Cerdded, olwyno a beicio

Mae teithio llesol – teithio trwy gerdded, olwyno neu feicio – yn dda i ni ac i’n dinas, a dyna pam mae’n rhan allweddol o uchelgais Caerdydd i greu lle gwyrddach ac iachach i fyw.
Rydym yn gweithio i’w gwneud hi’n haws i deithio’n llesol yng Nghaerdydd drwy gyflwyno cynllun sy’n gwneud gwelliannau i deithiau ar droed ac ar feic.

Gallwch ddarganfod mwy am ein cynlluniau ar gyfer teithio llesol yng Nghaerdydd drwy ddarllen am ein Map Rhwydwaith Teithio Llesol a’r strategaeth Caerdydd Un Blaned

Gallwch ddarganfod mwy am y cynlluniau rydyn ni’n eu cyflwyno ac ymateb i ymgynghoriadau yma: Ymgynghoriadau