Skip to content
In Development

Pont Teithio Llesol Cei Ganolog

Concept Image of the proposed Central Quay Bridge. View looking North from Taff Mead Embankment. Indicative representation of the Central Quay development on the East side of the river.

Yn flaenorol, mae Cyngor Caerdydd wedi gofyn am gyngor cynllunio cyn gwneud cais ar bont teithio llesol arfaethedig y Cei Canolog ac mae’n gwneud cais cynllunio yr haf hwn (2025). Nod y bont feicio a cherddwyr newydd arfaethedig, sy’n croesi Afon Taf yng Nghanol Caerdydd, yw cysylltu datblygiad newydd Cei Canolog, ar hen safle Bragdy Brains, â chymuned Grangetown. Byddai gwell cysylltedd ar draws Caerdydd yn creu’r cyfle am fuddion economaidd-gymdeithasol i’r gymuned leol, a chydnabyddir y byddai’r hygyrchedd cynyddol yn sgil y bont yn gwella gwydnwch y rhwydwaith trafnidiaeth lleol yn ystod digwyddiadau mawr yn y stadiwm.

Pont Teithio Llesol Cei Ganolog

Pont Teithio Llesol Cei Ganolog

Delwedd gysyniadol o Bont Arfaethedig y Cei Canolog. Golwg i gyfeiriad y gogledd o Arglawdd Dôl Afon Taf. Cynrychiolaeth ddangosol o ddatblygiad y Cei Canolog ar ochr ddwyreiniol yr afon.

Mae’r buddion cysylltedd ehangach y byddai Pont arfaethedig y Cei Canolog yn eu cynnig yn cynnwys:

  1. Cau’r cylch – cwblhau llwybr teithio cylchol yng nghanol dinas Caerdydd;
  2. Hyrwyddo teithio llesol – rhoi llwybr uniongyrchol ar gyfer teithiau milltir gyntaf ac olaf yng Nghanol Dinas Caerdydd, gan leihau’r ddibyniaeth ar geir i rai preswylwyr;
  3. Gwydnwch ar ddiwrnodau digwyddiadau mawr – llwybr ychwanegol i reoli llif y bobl oherwydd digwyddiadau o fewn Stadiwm Principality; a
  4. Cysylltu pobl â mannau gwyrdd a llwybrau hamdden – rhoi mynediad mwy uniongyrchol o ddatblygiad arfaethedig y Cei Canolog at fannau gwyrdd presennol ar lan orllewinol afon Taf a mynediad at Lwybr Taf.
Pont Teithio Llesol Cei Ganolog

Pont Teithio Llesol Cei Ganolog

Lleoliad y Safle (yn edrych i’r gogledd o bont bresennol Heol Penarth)