Skip to content

Taxi Ranks Welsh

Nid yw pob tacsi yr un peth: Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Mae’n gamsyniad cyffredin bod pob cerbyd trwyddedig i’w hurio yr un peth – mae’r rhan fwyaf o bobl yn syml yn eu galw’n “dacsis.” Fodd bynnag, mae dau fath gwahanol o gerbydau trwyddedig sydd â dibenion gwahanol: tacsis (cerbydau hacni) a cherbydau hurio preifat.

Gallwch hurio tacsi (cerbyd hacni) o safle tacsis dynodedig neu drwy fflagio un ar y stryd. Gallwch archebu rhai ymlaen llaw hefyd.

Rhaid archebu cerbydau hurio preifat ymlaen llaw trwy weithredwr trwyddedig – ni allwch eu fflagio ar y stryd.

 

Cerbydau Hacni (Tacsis)

  • Gallwch eu fflagio ar y stryd neu eu hurio’n uniongyrchol o safle tacsis.
  • Yng Nghaerdydd maent yn ddu yn gyffredinol gyda boned wen.
  • Mae ganddynt olau to.
  • Mae ganddynt blât trwydded gwyn i’w weld ar gefn y cerbyd.
  • Mae ganddynt gerdyn adnabod gwyn yn y ffenestr flaen sy’n dangos rhif y drwydded.
  • Maent yn drwyddedig i gasglu teithwyr heb archeb.
  • Gallwch eu harchebu ymlaen llaw hefyd trwy weithredwr tacsis.

Mae’n drosedd i yrrwr tacsi wrthod taith sy’n dechrau ac yn gorffen yng Nghaerdydd heb esgus rhesymol. Er enghraifft, ni all gyrrwr wrthod taith dim ond oherwydd bod y daith yn rhy fyr.

Wrth agosáu at dacsi, argymhellir dechrau trwy ofyn i’r gyrrwr, “Ydych chi’n rhydd?” neu “Ydych chi ar gael?” cyn dweud eich cyrchfan. Mae hyn yn helpu i leihau’r siawns y bydd y gyrrwr yn honni ei fod eisoes wedi’i archebu.

Ar gyfer teithiau sy’n dechrau ac yn gorffen yng Nghaerdydd, rhaid i’r gyrrwr ddefnyddio’r mesurydd tacsi ac ni all godi mwy na’r pris sydd ar y mesurydd.

Ar gyfer teithiau sy’n dechrau neu’n gorffen y tu allan i Gaerdydd, nid oes rhaid i’r gyrrwr dderbyn y daith na defnyddio’r mesurydd. Efallai y bydd yn codi mwy na’r pris sydd ar y mesurydd, ond dim ond os yw’r pris wedi’i gytuno ar ddechrau’r daith. Os nad yw’r pris wedi’i gytuno ymlaen llaw, rhaid i’r gyrrwr ddefnyddio’r mesurydd a chodi’r pris sydd ar y mesurydd.

Mae angen i bob tacsi yng Nghaerdydd dderbyn taliad cerdyn neu ddigyffwrdd.

 

Cerbydau Hurio Preifat

  • Rhaid archebu’r rhain ymlaen llaw trwy weithredwr trwyddedig – ni allwch archebu’r teithiau yn uniongyrchol gyda’r gyrrwr ac ni chaniateir iddynt ddefnyddio safleoedd tacsis.
  • Yng Nghaerdydd gallant fod yn unrhyw liw ac eithrio du gyda boned wen (er mwyn osgoi eu cymysgu â cherbyd hacni).
  • Mae plât trwydded melyn i’w weld ar gefn y cerbyd.
  • Mae ganddynt gerdyn adnabod melyn yn y ffenestr flaen sy’n dangos rhif y drwydded.
  • Nid oes golau to ganddynt.

Os bydd cerbyd hurio preifat yn eich casglu heb archeb, ni fydd y daith wedi’i hyswirio a bydd y gyrrwr yn torri’r gyfraith.

Cerbyd Hacni

Cerbyd Hacni

Enghraifft o blât trwydded tacsi (cerbyd hacni) (wedi’i arddangos ar gefn y cerbyd)

Cerbyd Llogi Preifat

Cerbyd Llogi Preifat

Enghraifft o blât trwydded cerbyd hurio preifat (wedi’i arddangos ar gefn y cerbyd)

Mae rhestr o safleoedd tacsis yng Nghaerdydd ar gael yma.

Diogelwch Teithwyr

Os ydych yn teimlo’n anniogel yn ystod eich taith, dylech:

  • rannu eich lleoliad (er enghraifft gan ddefnyddio WhatsApp neu Google Maps)
  • sicrhau llinell agored gyda ffrind neu berthynas tan ddiwedd y daith
  • gwneud yn siŵr bod y mesurydd yn gweithredu (ar gyfer tacsis)
  • gwneud yn siŵr bod gennych y dull talu cywir cyn dechrau’r daith
  • gwneud yn siŵr eich bod yn peidio â mentro cerdded adref ar eich pen eich hun (dylech ddod o hyd i dacsi arall yn lle)
  • gwneud yn siŵr bod gyrrwr y tacsi yn cymryd y daith fyrraf
  • gwneud yn siŵr nad yw’r tacsi yn stopio (oni bai ei fod yn argyfwng)
  • eistedd yn y cefn, y tu ôl i sedd y teithiwr blaen
  • peidio â chymryd rhan mewn sgwrs oni bai ei bod yn berthnasol
  • peidio â rhannu manylion personol (ac eithrio wrth archebu)

Ni chaniateir i dacsis wrthod taith heb esgus rhesymol. Ni ddylent eich cadw dan glo yn y cerbyd yn erbyn eich ewyllys na fynd â chi i ATM a chodi tâl am y daith ychwanegol.

Gallwch roi gwybod am broblem neu wneud cwyn am yrrwr tacsi drwy e-bostio trwyddedu@caerdydd.gov.uk​

Pan fyddwch yn rhoi gwybod am ddigwyddiadau i ni, lle bo’n bosibl, gwnewch nodyn/tynnwch lun o’r canlynol:

  • rhif y gyrrwr,​
  • rhif cofrestru’r cerbyd,
  • rhif y plât trwydded, a
  • dyddiad, amser a lleoliad y digwyddiad.

Byddwn yn ceisio gwirio tystiolaeth trwy deledu cylch cyfyng, meddalwedd olrhain teithiau, camerâu dashfwrdd a theithwyr eraill lle bo hynny ar gael. Mewn achosion difrifol, byddwn yn dirymu trwydded. Felly, rhaid i ni ymchwilio’n agored a dangos tegwch.

Defnyddio Tacsi

Wrth ddefnyddio tacsi, dylech:

  • ddefnyddio safle tacsis (ceisiwch ddewis un wedi’i staffio gan farsialiaid tacsis os yn bosibl)
  • trefnu i yrrwr y tacsi eich casglu o fan cyfarfod diogel
  • gofyn beth yw’r pris tebygol ar adeg archebu a gwirio bod gennych yr arian i’w dalu
  • disgwyl i’r gyrrwr fod yn gwrtais.
  • talu yn unol â’r ffioedd a ddangosir ar y tariff yn unig, oni chytunwyd yn wahanol

Defnyddio Cerbyd Hurio Preifat

Ni ddylech gysylltu â gyrrwr cerbyd hurio preifat yn uniongyrchol dros y ffôn, drwy ap cyfryngau cymdeithasol neu ar ochr y ffordd. Rhaid i chi bob amser archebu trwy weithredwr.

Pan fyddwch yn defnyddio cerbyd hurio preifat, dylech:

  • archebu gyda gweithredwr trwyddedig (nid ydym yn asesu nac yn gorfodi’r rhai sydd wedi’u trwyddedu gan awdurdod arall)
  • cadarnhau’r archeb gyda’r gyrrwr pan fydd yn cyrraedd a sicrhau ei fod yn cyfateb i unrhyw fanylion eraill
  • gwneud nodyn o rif y drwydded
  • eistedd yn y cefn, y tu ôl i sedd y teithiwr blaen
  • rhoi gwybod i drydydd parti fanylion eich taith

Cerbydau sy’n Hygyrch i Gadeiriau Olwyn

Mae cerbydau hacni gyda rhifau trwydded 401 – 957 yn gerbydau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn.

Mae gan yrwyr cerbydau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn gyfrifoldeb i gynorthwyo teithwyr a chŵn cymorth, oni bai eu bod wedi’u heithrio.

Nid yw gyrwyr cerbydau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn yn gallu codi unrhyw gost ychwanegol ar deithwyr am eu cynorthwyo oherwydd eu bod yn defnyddio cadair olwyn neu gi cymorth.

Tystysgrifau Eithrio

Rhaid i yrwyr sydd ag eithriad meddygol dilys rhag cludo cŵn cymorth:

  • Arddangos eu tystysgrif eithrio yn amlwg ar y ffenestr flaen
  • Bydd y dystysgrif yn cael ei marcio’n glir a’i chyhoeddi gan Gyngor Caerdydd
  • Dangos yr hysbysiad eithrio i deithwyr os gofynnir am hynny

Ni all gyrwyr godi unrhyw gost ychwanegol ar deithwyr am:

  • Eu cynorthwyo oherwydd eu bod yn defnyddio cadair olwyn (cerbydau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn)
  • Cludo cŵn cymorth (pob cerbyd)
  • Rhoi cymorth rhesymol i deithwyr anabl

Rhoi gwybod am dacsis a gyrwyr heb drwydded

Rhaid i bob tacsi a gyrrwr tacsi fod â thrwydded i weithredu yng Nghaerdydd.

Mae gweithredu heb drwydded yn anghyfreithlon.

Nid yw gyrwyr heb drwydded wedi cael/yn meddu ar y canlynol:

  • yr hyfforddiant priodol
  • gwiriadau cefndir
  • archwiliadau cerbyd
  • yswiriant cywir

Yn ogystal, gan na allwn reoleiddio gyrwyr heb drwydded, gall teithwyr brofi:

  • twyll
  • gordaliadau
  • gweithgareddau troseddol eraill

Os ydych yn amau bod tacsi neu yrrwr yn gweithredu heb drwydded, gallwch roi gwybod amdano trwy wefan Cyngor Caerdydd neu drwy e-bostio trwyddedu@caerdydd.gov.uk

Gyrru Gwael a Throseddau Gyrru

Rôl y Cyngor yw sicrhau bod gyrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat yn addas ac yn briodol i ddal trwydded. Fodd bynnag, nid ydym yn gyfrifol am orfodi cyfreithiau traffig ffyrdd cyffredinol fel goryrru, gyrru diofal, defnyddio ffôn symudol wrth y llyw, neu fethu â chydymffurfio ag arwyddion traffig. Mae’r materion hyn yn cael eu rheoleiddio gan yr Heddlu.

Os ydych yn dyst i yrru gwael neu beryglus gan yrrwr tacsi neu gerbyd hurio preifat trwyddedig, dylech roi gwybod am y mater yn uniongyrchol i Heddlu De Cymru. Ni all y Cyngor gyhoeddi cosbau na chymryd camau gorfodi am droseddau gyrru oni bai bod yr Heddlu wedi ymchwilio a chadarnhau’r drosedd yn gyntaf.

Sut i Roi Gwybod am Droseddau Gyrru

Mae Heddlu De Cymru yn darparu sawl ffordd o roi gwybod am yrru anniogel neu anghyfreithlon:

  • Ymgyrch Snap – porth ar-lein lle gallwch gyflwyno fideo camera dashfwrdd, camera helmed neu ffôn symudol o yrru peryglus. Mae hyn yn cynnwys digwyddiadau fel anwybyddu goleuadau coch, goddiweddyd peryglus, neu yrru heb ofal dyledus.
    Mae Ymgyrch Snap ar gael yma: Ymgyrch Snap Heddlu De Cymru
  • Ffoniwch 101 – ar gyfer materion heddlu nad ydynt yn argyfwng.
  • Ffoniwch 999 – mewn argyfwng lle mae perygl uniongyrchol i fywyd neu risg o anaf difrifol.

Os bydd yr Heddlu yn cymryd camau gorfodi yn erbyn gyrrwr trwyddedig am droseddau gyrru, bydd y Cyngor yn cael ei hysbysu ac yna gall ystyried a yw’r gyrrwr yn parhau’n addas ac yn briodol i ddal trwydded.

Dull Teithio Arall