Skip to content

Cynllun Llogi Beiciau Caerdydd

Mae Cyngor Caerdydd wedi cadarnhau cynlluniau i lansio cynllun llogi beiciau trydan newydd – gan gynnig ffordd lanach, fwy diogel a dibynadwy i breswylwyr ac ymwelwyr fynd o gwmpas y ddinas.

Bydd y cynllun yn cael ei ariannu’n llawn a’i weithredu gan gwmni preifat, gyda’r Cyngor ond yn talu’r gost o osod mannau parcio wedi’u paentio. Mae hyn yn golygu bydd y cynllun yn dod heb unrhyw gost i’r Cyngor am ei redeg o ddydd i ddydd.

Mae’r cynllun newydd yn dilyn llwyddiant – a heriau – rhaglen flaenorol Nextbike, a arweiniodd at fwy na 2 filiwn o deithiau beic rhwng 2018 a 2023. Cafodd y cynllun hwnnw ei atal yn y pen draw oherwydd lefelau uchel o fandaliaeth a lladrad.

Y tro hwn, bydd pob beic yn feic trydan. Mae e-feiciau yn fwy cadarn, yn llai tebygol o gael eu fandaleiddio, ac mae angen llai o waith cynnal a chadw arnyn nhw. Bydd ganddyn nhw hefyd system dracio GPS i helpu i adfer beiciau os ydyn nhw’n cael eu symud neu eu dwyn pan nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio.

Bydd y beiciau’n cael eu parcio mewn ardaloedd “geoffens” dynodedig – ardaloedd rhithwir sy’n sicrhau bod beiciau ond yn gallu cael eu gadael mewn lleoliadau cymeradwy. Mae hyn yn helpu i gadw’r palmentydd yn glir ac yn gwneud y cynllun yn haws i’w reoli.

Mae’r Cyngor wedi siarad â gweithredwyr llogi beiciau blaenllaw ledled y DU ac Ewrop, ac mae diddordeb cryf mewn rhedeg cynllun yng Nghaerdydd. Gallai hyd at 2,500 o e-feiciau gael eu cyflwyno ledled y ddinas, gyda’r opsiwn i ychwanegu e-sgwteri yn y dyfodol, os gwneir penderfyniad gan y Cyngor a hyd nes bydd yr Adran Drafnidiaeth yn penderfynu ar y treialon e-sgwteri, a newidiadau cyfreithiol yn cael eu gwneud i ganiatáu iddyn nhw gael eu defnyddio ar dir cyhoeddus yng Nghymru.

Mae cynghorau cyfagos ym Mro Morgannwg a Chasnewydd hefyd wedi mynegi diddordeb mewn ymuno â’r cynllun, a allai arwain at rwydwaith rhanbarthol ehangach.

Mae disgwyl i’r cynllun lansio yn y gwanwyn yn 2026, gyda fflyd newydd o e-feiciau i’r cyhoedd eu defnyddio.