Skip to content
In Construction

Cledrau Croesi Caerdydd

Mae Cyngor Caerdydd a Thrafnidiaeth Cymru (TrC) yn cydweithio i ddarparu tramffordd newydd rhwng Caerdydd Canolog a Bae Caerdydd, cam cyntaf Cledrau Croesi Caerdydd. Bydd yn gwella’r cysylltiad rhwng canol y ddinas a’r Bae, a bydd o fudd i’r ddinas a’r rhanbarth ehangach.

Yn amodol ar gyllid, bydd Cledrau Croesi Caerdydd yn rhedeg o ogledd-orllewin y ddinas, yr holl ffordd i’r dwyrain o’r ddinas gan gysylltu â gorsaf reilffordd arfaethedig ‘Parcffordd’.

I ddechrau’r broses hon, rhaid adeiladu cam cyntaf y cynllun rhwng Canol Caerdydd a Bae Caerdydd. Bydd hyn o’r diwedd yn sicrhau bod gan Butetown gysylltiad defnyddiol â chanol y ddinas, ar hyd y dramffordd newydd, gan ddarparu mwy o gapasiti i drigolion ac ymwelwyr gael mynediad at yr ystod eang o atyniadau sydd gan Gaerdydd i’w cynnig.

Cefndir 

Mae cam 1 Cledrau Croesi Caerdydd yn rhan o weledigaeth ehangach Cledrau Croesi Caerdydd a gyflwynwyd yn y Papur Gwyn Trafnidiaeth, a gyhoeddodd Cyngor Caerdydd ym mis Gorffennaf 2019.

Sicrhaodd Cyngor Caerdydd, mewn partneriaeth â TrC, £100 miliwn o gyllid ar gyfer cam 1 Cledrau Croesi Caerdydd, i ddarparu tramffordd rhwng Caerdydd Canolog a Bae Caerdydd. Sicrhawyd £50 miliwn gan Lywodraeth y DU, gyda chyllid cyfatebol o £50 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect.

Mae’r cynllun yn cyd-fynd yn llawn â’n dyheadau ar gyfer Metro De Cymru. Bydd yn cyd-fynd â’r gwaith sydd eisoes ar y gweill i adeiladu platfform newydd ar lein Bae Caerdydd i ganiatáu gwasanaethau cyflymach ac amlach gan ddefnyddio gwasanaeth trên-tram newydd sbon.

Dyma fydd y cynllun yn ei ddarparu:

  • Adeiladu gorsaf newydd gyda dau blatfform yn rhan ddeheuol o faes parcio gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog, gyfleus er mwyn gallu cysylltu’n rhwydd â gorsaf Caerdydd Canolog.
  • Cyswllt tramffordd newydd o ran ddeheuol maes parcio gorsaf Caerdydd Canolog, yn croesi drwy Sgwâr Callaghan ac yn ymuno â lein bresennol Bae Caerdydd.
  • Trydydd platfform yng ngorsaf Bae Caerdydd (yn ogystal â’r ail, sydd wrthi’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd)
  • Gwella mannau cyhoeddus ar y lein i gysylltu cymunedau, lleoedd ac atyniadau cyfagos.

Cynlluniau’r dyfodol 

Mae Cyngor Caerdydd yn gweithio gyda TrC ac yn ystyried y posibilrwydd o ddarparu cysylltiad newydd rhwng gorsaf Bae Caerdydd a gorsaf newydd sbon ar Stryd y Pierhead (Cam 1b Cledrau Croesi Caerdydd), sy’n amodol ar sicrhau cyllid ychwanegol ac felly nid yw’n cael ei gynnwys yn yr ymgynghoriad hwn.

 

Mae lluniadau’r prosiect a gwybodaeth ychwanegol am y broses ymgynghori ar gyfer y prosiect hwn ar gael ar wefan Trafnidiaeth Cymru:

https://dweudeichdweud.trc.cymru/cledrau-croesi-caerdydd

2024
Achos Busnes Amlinellol

Cyflwyno Achos Busnes Amlinellol i Lywodraeth y DU

Ymgysylltu â rhanddeiliaid

Ymgysylltu â rhanddeiliaid cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus a lansio’r Ymrwymiad Ymgynghori.

Cynnal ymgynghoriad cyhoeddus.

Cynnal ymgynghoriad cyhoeddus.

Cyflwyno achos busnes llawn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Cyflwyno achos busnes llawn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

2025
Cyflwyno cais am Orchymyn Deddf Trafnidiaeth a Gwaith.

Cyflwyno cais am Orchymyn Deddf Trafnidiaeth a Gwaith.

2026
Cadarnhau’r Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth a Gwaith.

Cadarnhau’r Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth a Gwaith.

Rhoi’r prosiect ar waith / trenau tram yn dechrau rhedeg.

Rhoi’r prosiect ar waith / trenau tram yn dechrau rhedeg.