Skip to content

Seilwaith

Pan fyddwn yn gweithio gydag ysgolion i greu Cynllun Teithio Llesol, rydyn ni hefyd yn trafod unrhyw broblemau a allai fod ganddyn nhw o ran y seilwaith y tu allan i gatiau’r ysgol, megis croesfannau neu ardaloedd sy’n peri pryder i ddiogelwch cerddwyr.

Rydym yn cydweithio ag adrannau eraill i geisio gweithredu newidiadau i wneud y daith i’r ysgol yn brofiad diogelach.

Bolardiau

Bolardiau

Mae bolardiau wedi’u gosod fel nodwedd ddiogelwch i amddiffyn cerddwyr lle gwelwyd parcio peryglus.

Rheiliau rhwystro

Rheiliau rhwystro

Mae rheiliau rhwystro wedi’u gosod yn y maes parcio hwn i amddiffyn cerddwyr ac i atal gyrwyr rhag gadael y maes parcio a gyrru dros y palmant.

Croesfan Sebra Ddyrchafedig

Croesfan Sebra Ddyrchafedig

Mae croesfannau dyrchafedig yn cynnig mesurau arafu traffig a  mannau diogel i deuluoedd/cerddwyr groesi. Mae hyn yn gwella gwelededd ac yn annog gyrwyr i arafu lle mae cerddwyr yn croesi.