Ein Hysgolion Teithio Llesol
Mae gan Gyngor Caerdydd weledigaeth i’w chyflawni erbyn 2030, sef newid y ffordd y mae pobl yn teithio o amgylch y ddinas a gwneud newidiadau sylweddol er mwyn ymateb i’r argyfwng hinsawdd, ar gyfer aer glân ac i greu cymunedau diogel ac iach.
Rydyn ni, y tîm Ysgolion Teithio Llesol, yn gweithio gydag ysgolion ledled Caerdydd i’w cefnogi i leihau nifer y teithiau ceir i’r ysgol, a chynyddu teithio llesol fel cerdded, neu ddefnyddio beic neu sgwter.
Mae’n ddyhead gan y Cyngor i bob ysgol yng Nghaerdydd fod â Chynllun Teithio Llesol.
Mae llawer o ysgolion yng Nghaerdydd wedi llwyddo i lunio eu Cynllun Teithio Llesol ac maent yn gweithio tuag at daith fwy llesol a chynaliadwy i’r ysgol.