Skip to content

Diogelwch ar y Ffyrdd mewn Ysgolion

 

Mae Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Caerdydd yn cynnig ystod eang o fentrau i ysgolion.

 

Hyfforddiant Beicio Safonol Cenedlaethol

Mae amrywiaeth o gyrsiau hyfforddiant beicio ar gael i ysgolion yng Nghaerdydd.

Cynigir Hyfforddiant Beicio Safonol Cenedlaethol (lefel 1 a 2) i ysgolion cynradd.

Gall ysgolion uwchradd ofyn am hyfforddiant lefel 1, 2 a 3 ar gyfer eu disgyblion.

Mae Hyfforddiant Beicio Safonol Cenedlaethol a chyrsiau gwyliau Dysgu Beicio hefyd ar gael i ddisgyblion ysgolion Caerdydd.

Mae cyrsiau hyfforddiant beicio i oedolion ar gael i unrhyw un sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yng Nghaerdydd.

I gael rhagor o wybodaeth am hyfforddiant beicio i blant, ewch i Cyrsiau Hyfforddiant Beicio Plant (caerdydd.gov.uk)

I gael rhagor o wybodaeth am hyfforddiant beicio i oedolion, ewch i Cyrsiau Hyfforddiant Beicio Oedolion (caerdydd.gov.uk)

 

Stryd-ddoeth

Nod y fenter Stryd-ddoeth yw codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd er mwyn sicrhau bod gan blant y sgiliau sydd eu hangen i deithio’n ddiogel i’w hysgol uwchradd yn ogystal ag annog annibyniaeth a theithio llesol.  Darperir hyfforddiant i ddisgyblion blwyddyn 6 ledled Caerdydd.

 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais am y cynllun ar gyfer eich ysgol, ewch i Menter Stryd-ddoeth (caerdydd.gov.uk)

 

Hyfforddiant Cerddwyr Ifanc

Mae Hyfforddiant Cerddwyr Ifanc yn addysgu plant ym mlwyddyn 2 sut i fod yn gerddwyr mwy diogel.

Mae plant yn derbyn cyflwyniad yn y dosbarth ac yn cael eu tynnu allan o’r ysgol mewn grwpiau bach gan y Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd, i ddysgu tair prif sgil:

Dewis Mannau a Llwybrau i Groesi’r Ffordd

Caiff y plant eu helpu i weld pan fo peryglon a dod o hyd i fannau croesi eraill.

Croesi ger Ceir wedi’u Parcio

Addysgir plant sut i groesi yn agos at geir wedi eu parcio – pan nad yw’n bosibl eu hosgoi.

Croesfan ger Cyffyrdd

Caiff y plant eu cyflwyno i’r problemau sy’n codi gyda chyffyrdd syml a chymhleth a byddant yn dysgu sut i’w croesi.

I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais am y cynllun ar gyfer eich ysgol, ewch i Kerbcraft (caerdydd.gov.uk)

 

Hyfforddiant Teithio Annibynnol

Nod y Cynllun Hyfforddiant Teithio Annibynnol (CHTA) yw rhoi’r sgiliau allweddol a’r hyder i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) deithio’n annibynnol, gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Cymorth teithio i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (caerdydd.gov.uk)