Skip to content

Llochesi Beiciau

Llun gydag enghraifft o lochesi beiciau gwyrdd tywyll a stondinau beiciau ar gyfer ysgolion wedi'u llenwi â beiciau ac wedi'u cloi.

Cyfleusterau parcio i feiciau a sgwteri ar gyfer ysgolion

Er mwyn cefnogi ein strategaeth Teithio Llesol ac i annog plant i feicio neu fynd ar sgwteri i’r ysgol, rydym wedi bod yn gosod cyfleusterau parcio diogel a chysgodol ar gyfer beiciau a sgwteri mewn ysgolion ledled Caerdydd. Yn ystod y pedair blynedd diwethaf rydym wedi gosod cysodfannau beicio newydd sbon, rheseli parcio beiciau, a rheseli parcio sgwteri mewn bron 80 o ysgolion ac rydym yn bwriadu gosod y cyfleusterau hyn ym mhob ysgol yng Nghaerdydd sydd eu hangen. Mae rhai enghreifftiau o brosiectau diweddar i’w gweld yn y lluniau isod. Mae’r cynllun wedi’i anelu at ysgolion nad oes ganddynt unrhyw gyfleusterau, sydd angen diweddaru hen gyfleusterau, neu sydd angen ychwanegu at eu darpariaeth bresennol oherwydd galw mawr.

Llun gydag enghraifft o lochesi beiciau coch ar gyfer ysgolion gyda stondinau beiciau.

Cysylltwch â ni i fynegi diddordeb os ydych chi’n meddwl bod angen mwy o gyfleusterau parcio beiciau/sgwteri ar eich ysgol chi.

 

Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Trafnidiaeth Cymru.”     

Logo Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.